Christine Chapman AC
Cadeirydd y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol
29 Gorffennaf 2014
Annwyl Chris
Y Bil Trais ar sail Rhywedd, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru)
Yng nghyfarfod y Pwyllgor Cyllid ar 16 Gorffennaf, trafododd y Pwyllgor oblygiadau ariannol y Bil hwn. Ar hyn o bryd, rydym wedi penderfynu peidio â gofyn i'r Gweinidog ddod i un o gyfarfodydd y Pwyllgor ond rydym wedi ysgrifennu ati ynghylch nifer o bwyntiau. Atodaf gopi o'r llythyr hwn er gwybodaeth.
Os bydd unrhyw faterion ariannol yn codi yn ystod eich gwaith craffu cyfnod 1 o'r Bil, y credwch y dylai'r Pwyllgor Cyllid gael gwybod amdanynt, cofiwch roi gwybod inni amdanynt.
Yn gywir,
Jocelyn Davies AC
Cadeirydd